Menu
Croeso i Wefan YGG Aberdâr. Cyd Dynnu Gwir Lwyddiant!
Home Page

Ysgol G.G. AberdarCyd Dynnu Gwir Lwyddiant

Croeso iYsgol G.G. AberdarCyd Dynnu Gwir Lwyddiant

Cyngerdd 1 a 2 / Year 1 a 2

Cân 1 - Nadolig!


Nadolig, Nadolig,
Ymunwch - canwch yn llon
Nadolig, Nadolig,
‘Sdim adeg arall fel hon


Nadolig, Nadolig,
Yr Iesu yn ei grud
Nadolig, Nadolig,
Fe ddaeth y baban i’r byd


Cytgan
Hei - mae’r Nadolig yn dod
Amser i ddathlu , fe ganwn ei glod
Hei - mae’r nadolig yn dod
Hud a rhyfeddod


Nadolig, Nadolig,
Ymunwch - canwch yn llon
Nadolig, Nadolig,
‘Sdim adeg arall fel hon


Nadolig, Nadolig,
Yr Iesu yn ei grud
Nadolig, Nadolig,
Fe ddaeth y baban i’r byd

Nadolig

Cân 2 - Dim WIFI!


Be wnawn ni heb Alexa?
Dim gwgl - dim Siri
Dim Asda siop na Tesco
Dim SKY - dim Teledu!


Dim Disney plus, dim Netflix
Dim Prime - Dim Apple TV
Dim Playstation nac XBOX
O mam bach, be wnawn ni?


Bydd angen canslo Dolig
Sdim pwynt heb Nintendo
Bydd popeth nawr mor boring
Dim pwynt i’r Ho! Ho! Ho!


Be wnawn ni heb Alexa?
Dim gwgl - dim Siri
Dim Asda siop na Tesco
Dim SKY - dim Teledu!


Bydd angen canslo Dolig
Sdim pwynt heb Nintendo
Bydd popeth nawr mor boring
Dim pwynt i’r Ho! Ho! Ho!


Dim pwynt i’r Ho! Ho! Ho!

Dim WiFi

Cân 3 - Pwy sy’n dwad…


Pwy sy'n dwad dros y bryn,
yn ddistaw, ddistaw bach?
Ei farf yn llaes, a'i wallt yn wyn,
â rhywbeth yn ei sach.
A phwy sy'n eistedd ar y tô,
ar bwys y simdde fawr?
Siôn Corn, Siôn Corn…Helo, helo.
Tyrd yma, tyrd i lawr!

Pwy sy'n dwad

Cân 4 - Yr Anrheg Orau


Gofynnon am lety - roedd pob man yn llawn
‘Rôl taith didrugaredd
Yr asyn a gerddodd - ymlaen ac ymlaen
Yn cario ein brenin - ymlaen ac ymlaen
Gofynnon am lety - roedd pob man yn llawn.


Cytgan
Fe oedd yr anrheg - y gorau erioed
Brenin bach llwm yn y preseb
Gwrth a rhyfeddod - ein babi bach clud
Yr anrheg orau a ddaeth i’r byd


Fe ddaeth y bugeiliaid i weled ei wên
A’r doethion yn dilyn
Dilynon y seren at Fethlehem dref
R’ol derbyn y neges - at Fethlehem dref
Fe ddaeth y bugeiliaid i weled ei wên


Cytgan
Fe oedd yr anrheg - y gorau erioed
Brenin bach llwm yn y preseb
Gwrth a rhyfeddod - ein babi bach clud
Yr anrheg orau a ddaeth i’r byd

Yr anrheg orau

Cân 5 - Dim


Jyst chwarae gyda’n gilydd
Dim Mario, dim FIFA
Treulio amser gyda’n gilydd
Dim uploadio chwaith


Cytgan
O mae’n braf cael bod ‘da’r teulu
Troi y swits off ar bob dim
Dim WIFI ‘i hangen heno
Mae’r nosweithiau hyn mor brin


S’dim angen chargio batris
Na llwytho na back ups
Does dim angen aros oriau -
’r cylch fynd rownd a rownd


Cytgan
O mae’n braf cael bod ‘da’r teulu
Troi y swits off ar bob dim
Dim WIFI ‘i hangen heno
Mae’r nosweithiau hyn mor brin

Dim

Gyda’n Gilydd


Pwy sy’n cofio’r stori?
Y stori hyna’ rioed
Pwy sy’n cofio’r seren a’r bugeiliad llwm dan droed?
Pwy glywodd am yr angel yn rhannu’r neges glir?
Am y brenin newydd -
Fe ddaeth heddwch i’r byd.


Cracyrs, twrci, pwdin
Anrhegion dan y coed
Plant dros Gymru gyfan yn fwy hapus nag erioed
Yn chwarae gemau newydd a threulio amser aur
Cofio am yr Iesu
Fu’n gorwedd yn y gwair


Cytgan;
Gyda’n gilydd fe ddathlwn y Nadolig
Teulu mawr yn dod ynghyd-
Teulu hapus, teulu clud;
Gyda’n gilydd - dymunwn ‘dolig Llawen
A blwyddyn newydd dda i chi gyd!


Dyma hi’r Nadolig
Yn barod ger y drws
Dathlu gyda’n ffrindiau a chofio’r neges dlws
Pob teulu yn ymgunnull i rannu ‘tgofion clud
A chofio am y noson
Pan ddaeth heddwch i’r byd.


Cytgan;
Gyda’n gilydd fe ddathlwn y Nadolig
Teulu mawr yn dod ynghyd-
Teulu hapus, teulu clud;
Gyda’n gilydd - dymunwn ‘dolig Llawen
A blwyddyn newydd dda i chi gyd!


Gyda’n gilydd fe ddathlwn y Nadolig
Teulu mawr yn dod ynghyd-
Teulu hapus, teulu clud;
Gyda’n gilydd - dymunwn ‘dolig Llawen
A blwyddyn newydd dda i chi gyd!

Gyda'n gilydd

Top